Compostio yn y cartref
Sut allai leihau un rhan o dair o fy ngwastraff?
Gall croen llysiau, toriadau gwrychoedd, papur a sawl peth arall o’r gegin a’r ardd bydru’n rhwydd a naturiol mewn bin compost cyffredin, fel bod llai o wastraff i’w roi allan i’w gasglu ac i’w brosesu. Gallwch gompostio oddeutu un rhan o
dair o’ch gwastraff, gan arbed ynni ac adnoddau, a gwneud lles i’r ardd ac i’r boced.
Yn eich bin compost gall pryfed a microorganebau bydru gwastraff bioddiraddadwy yn hawdd a chyfleus i greu compost rhad ac am ddim – ond os anfonnir y gwastraff i safleoedd tirlenwi bydd yn cael ei gymysgu a’i gladdu gyda phob math o wastraff. Does dim aer i gynnal y micro-organebau sy’n ffynnu mewn bin compost.
Ble mae biniau compost ar gael?
Mae’r rhan fwyaf o gynghorau lleol yn cynnig biniau am bris gostyngol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â chyngor eich bro.
Sut i ddechrau?
Rhowch y bin mewn safle cyfleus a hawdd ei gyrraedd o’r gegin a dechreuwch lenwi!
Cyngor Call - lle i’w osod:
Mae’n well ei osod ar bridd (lle gall mwydod a phryfetach ddod o hyd iddo’n hawdd), ond mae concrit yn iawn hefyd os oes rhywfaint o ddraeniad.
Cadwch focs wrth law yn y gegin ar gyfer eich gwastraff fel na fydd raid i chi ei gario i’r bin mor aml.
Beth ddylwn i ei roi yn y bin?
Mae eich bin angen cymysgedd o ddeunyddiau sy’n pydru ar wahanol gyflymder – does dim angen eu didoli.
Pydrwyr Cyflym | Pydrwyr Araf | Beth na ddylwn i ei roi yn y bin? |
Gwastraff ffrwythau | Brigau caled | Cig/pysgod/esgryn |
Plicion llysiau amrwd | Coesau planhigion | Cynnyrch llaeth |
Blodau | Twigs | Bwyd wedi’i goginio |
Chwyn | Dail hydref | Lludw glo |
Toriadau gwrychoedd | Cardbord wedi’i rwygo | Baw cwn a chathod |
Torion gwair | Bocsys wyau | Gwreiddiau chwyn |
Bagiau te a gwaddod coffi | Plisgyn wyau |
|
| Siafins coed |
|
| Baw anifeiliaid (llysysol) |
|
| Canol papur ty bach/ |
|