Skip to main content
  • Amdanom ni
  • Cysylltu â ni
  • Digwyddiadau
  • Newyddion
  • English
  • Cymraeg

Search form

Main Menu - Welsh

  • ALLA' I EI AILGYLCHU
  • Lleoliad Ailgylchu
  • Gwybodaeth Ailgylchu
    • Pam ailgylchu?
    • Canllaw Cyfleus ar gyfer Ailgylchu Bwyd
    • Esbonio symbolau deunydd pacio
    • Beth arall alla’ i ei wneud?
    • Rwyf eisiau gwneud mwy
    • Troi gwastraff Cymru yn ynni
    • FY AILGYLCHU CYMRU
  • LLEIHAU
    • Compostio yn y cartref
    • Lleihau ac ailddefnyddio deunydd pacio
    • Prif awgrymiadau ar gyfer lleihau gwastraff
    • Byw’n glyfar
    • Siopa clyfar
    • Dweud NA wrth sgrwtsh
    • Ymgyrch Cewynnau Go Iawn
  • AILDDEFNYDDIO
    • Canllaw ailddefnyddio i ddechreuwyr
    • Yn eich cymuned
    • Yn eich cartref
    • Ailddefnyddio ar waith
This content was archived on 27th March 2019

O WASTRAFF BWYD LLEOL I YNNI LLEOL I HELPU I BWERU ABERTAWE

Publication date:
27 Mar 2018

Yn 2017, ailgylchodd trigolion Abertawe ddigon i bweru Stadiwm Liberty am 5 mlynedd

Gyda dros 70% o bobl Cymru bellach yn dweud eu bod yn ailgylchu eu gwastraff bwyd, mae Cymru ar flaen y gad o ran ailgylchu bwyd. Ar ben hynny, trigolion Cymru yw’r trydydd gorau am ailgylchu yn y byd, ond Mae Ailgylchu dros Gymru yn credu y gallem gyrraedd y brig, dim ond o fod yn fwy ymwybodol o’r holl eitemau y gellir eu hailgylchu. 

Er bod y rhan fwyaf o bobl Abertawe yn ailgylchwyr bwyd brwd, mae rhai pobl yn credu nad ydynt yn creu unrhyw wastraff bwyd. Ond p’un a ydym yn credu’r peth neu beidio, rydym oll yn creu rhywfaint o wastraff bwyd na ellir ei fwyta, ond y gellir ei ailgylchu. Gellir ailgylchu eitemau gwastraff bwyd ‘anochel’, fel bagiau te, plisg wyau, esgyrn cig, a chrafion ffrwythau a llysiau, a’u troi yn drydan. Mae ailgylchu dim ond 22 o fagiau te yn cynhyrchu digon o ynni i bweru sugnwr llwch am 10 munud, a gall chwe bag te ferwi tegell – sawl disgled ydych chi’n ei gwneud mewn wythnos?

Caiff gwastraff bwyd sy’n mynd i’r bin sbwriel cyffredin ei anfon i dirlenwi ble mae’n pydru ac yn cynhyrchu’r nwy tŷ gwydr niweidiol, methan. Fodd bynnag, pan gaiff ei ailgylchu, caiff ei gludo i gyfleuster treulio anaerobig ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle caiff y methan ei reoli, ei droi’n drydan a’i fwydo i’r Grid Cenedlaethol. Y llynedd, ailgylchodd Agrivert, cyfleuster treulio anaerobig lleol Abertawe ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ddigon o wastraff bwyd i bweru tua 6000 o gartrefi am y flwyddyn gyfan!

Meddai Angela Spiteri o Ailgylchu dros Gymru: “Gwyddom fod y rhan fwyaf o bobl yn Abertawe yn ailgylchu eu bwyd, ac mae hynny’n wych, ond mae’n amlwg fod llawer o y gallwn ei wneud o hyd. Gall pob un peth rydym yn ei ailgylchu wneud gwahaniaeth mawr i faint o ynni adnewyddadwy y gallwn ei greu i bweru cartrefi a chymunedau yn Abertawe, wrth helpu Cymru i fod y genedl ailgylchu orau yn y byd.”

Beth allaf i ei ailgylchu?

Gallwch ailgylchu unrhyw fwyd, a’ch holl wastraff bwyd – ond dim hylifau, os gwelwch yn dda. Byddwch yn ymwybodol o’r eitemau gwastraff bwyd canlynol pan fyddwch yn coginio gartref:

  • Esgyrn cyw iâr neu gig
  • Bagiau te a gwaddodion coffi
  • Crafion ffrwythau a llysiau
  • Plisg wyau
  • Crafion plât a bwyd sydd tu hwnt i’r dyddiad defnyddio

Am fwy o wybodaeth, ewch draw i ein tudalen Bwyd Ailgylchu.

Editor's notes

Dy wasanaeth lleol

Mae pob un o gynghorau Cymru yn cynnig gwasanaeth ailgylchu bwyd wythnosol hwylus. Y cwbl fyddi di ei angen yw cadi cegin, bin ailgylchu bwyd a rholyn o fagiau leinio i gychwyn arni.

Dewis dy ardal cyngor o’r map er mwyn archebu dy finiau a darganfod mwy am dy wasanaeth lleol.

Archebu cadi a bin i’r tu allan


Cliciwch am wybodaeth
wales
  • Twitter
  • Facebook
  • YouTube

O Gwmpas Y DU

  • Recycle Now
  • Recycle for Scotland
  • Gogledd Iwerddon
  • Ailgylchu Dros Gymru

The Waste and Resources Action Programme (which operates as WRAP) is a registered UK Charity No. 1159512 and registered as a Company limited by guarantee in England & Wales No. 4125764.

Registered office at Second Floor, Blenheim Court, 19 George Street, Banbury, Oxon, OX16 5BH.

  • Polisi Preifatrwydd
  • Polisi Cwcis
  • Canllawiau cymunedol
  • TERMAU AC AMODAU