O wastraff bwyd lleol i ynni lleol i helpu i bweru Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Yn 2017, ailgylchodd trigolion Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddigon o wastraff bwyd i bweri Pafiliwn y Grand, Porthcawl am 11 1/2 blynedd.

Gyda dros 70% o bobl Cymru bellach yn dweud eu bod yn ailgylchu eu gwastraff bwyd, mae Cymru ar flaen y gad o ran ailgylchu bwyd. Ar ben hynny, trigolion Cymru yw’r trydydd gorau am ailgylchu yn y byd, ond mae Ailgylchu dros Gymru yn credu y gallem gyrraedd y brig, dim ond o fod yn fwy ymwybodol o’r holl eitemau y gellir eu hailgylchu.
Er bod y rhan fwyaf o bobl yn Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ailgylchwyr bwyd brwd, mae rhai pobl yn credu nad ydynt yn creu unrhyw wastraff bwyd. Ond p’un a ydym yn credu’r peth neu beidio, rydym oll yn creu rhywfaint o wastraff bwyd na ellir ei fwyta, ond y gellir ei ailgylchu. Gellir ailgylchu eitemau gwastraff bwyd ‘anochel’, fel bagiau te, plisg wyau, esgyrn cig, a chrafion ffrwythau a llysiau, a’u troi yn drydan. Mae ailgylchu dim ond 22 o fagiau te yn cynhyrchu digon o ynni i bweru sugnwr llwch am 10 munud, a gall 6 bag te ferwi tegell – sawl disgled ydych chi’n ei gwneud mewn wythnos?
Os yw gwastraff bwyd yn mynd i safleoedd tirlenwi mae’n pydru ac yn creu methan, nwy ty^ gwydr niweidiol. Fodd bynnag, pan gaiff ei ailgylchu, caiff ei gludo i gyfleuster treulio anaerobig ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle caiff y methan ei reoli, ei droi’n drydan a’i fwydo i’r Grid Cenedlaethol. Y llynedd, ailgylchodd Agrivert, cyfleuster treulio anaerobig lleol, ddigon o wastraff bwyd i bweru tua 6000 o gartrefi am y flwyddyn gyfan!
Meddai Catrin Palfrey o Ailgylchu dros Gymru: “Gwyddom fod y rhan fwyaf o bobl yn Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ailgylchu eu bwyd, ac mae hynny’n wych, ond mae’n amlwg fod llawer y gallwn ei wneud o hyd. Gall pob un peth rydym yn ei ailgylchu wneud gwahaniaeth mawr i faint o ynni adnewyddadwy y gallwn ei greu i bweru cartrefi a chymunedau yn Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wrth helpu Cymru i fod y genedl ailgylchu orau yn y byd.”
Beth allaf i ei ailgylchu?
Gallwch ailgylchu unrhyw fwyd, a’ch holl wastraff bwyd – ond dim hylifau, os gwelwch yn dda. Byddwch yn ymwybodol o’r eitemau gwastraff bwyd canlynol pan fyddwch yn coginio gartref:
- Esgyrn pysgod neu gig
- Bagiau te a gwaddodion coffi
- Crafion ffrwythau a llysiau
- Plisg wyau
- Crafion plât a bwyd sydd tu hwnt i’r dyddiad defnyddio
Am fwy o wybodaeth, ewch draw i ein tudalen Ailgylchu Bwyd
Editor's notes
Dy wasanaeth lleol
Mae pob un o gynghorau Cymru yn cynnig gwasanaeth ailgylchu bwyd wythnosol hwylus. Y cwbl fyddi di ei angen yw cadi cegin, bin ailgylchu bwyd a rholyn o fagiau leinio i gychwyn arni.
Dewis dy ardal cyngor o’r map er mwyn archebu dy finiau a darganfod mwy am dy wasanaeth lleol.